Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 19 Medi 2019
Amser:
09.00 -
10.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5740
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
2.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y Grŵp Rhyng-Weinidogol ar Dalu am Ofal Cymdeithasol - 15 Gorffennaf 2019
2.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch fframweithiau polisi cyffredin y DU - 22 Gorffennaf 2019
2.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Llywydd ynghylch yr ymchwiliad i hawliau pleidleisio carcharorion: eglurhad ar yr ymateb i'r adroddiad - 26 Gorffennaf 2019
2.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch yr ymchwiliad i hawliau pleidleisio carcharorion: eglurhad ar yr ymateb i'r adroddiad - 26 Gorffennaf 2019
2.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch budd-daliadau yng Nghymru: gwybodaeth ychwanegol - 6 Awst 2019
2.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch eiddo gwag: gwybodaeth ychwanegol - 6 Awst 2019
2.7a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch diogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn: ymateb dilynol - 6 Awst 2019
2.8a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch fframweithiau polisi cyffredin y DU - 8 Awst 2019
2.9a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ynghylch cysylltiad ag Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol cyntaf - 9 Awst 2019
2.10a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch fframweithiau polisi cyffredin y DU - 13 Awst 2019
2.11a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020-21 - 10 Medi 2019
2.12a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Llywydd ynghylch adolygu cylch gwaith y Pwyllgor - 30 Gorffennaf 2019
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad, yn amodol ar newidiadau mân.